Gilly
Dechreuais wnïo pan yr oeddwn yn ddeng mlwydd oed oherwydd nad oedd fy mam yn gallu fforddio prynu’r math o ddillad yr oeddwn ei eisiau – byddwn yn ymestyn defnydd a phatrymau allan ar garped llawr y lolfa.
Roedd byw mewn bws a gwnïo ym 1989 yn ffordd o wneud arian yn Sir Benfro, pan roeddech wedi cael nifer o blant fel y minnau, felly byddwn yn gwneud dillad ac yn eu gwerthu ym marchnad Caerfyrddin – ffrogiau priodas, gwisgoedd theatr a’u tebyg.
Rhoddais y gorau i wnïo dillad i'w gwerthu oddeutu tri deg mlynedd yn ôl, ac yna fe wnaeth y cyfnod clo fy sbarduno yn ôl i wnïo – doeddwn i ddim yn gallu addysgu ioga, felly wnes i ymweld â hen sgil.
Mae byw yn Sir Benfro yn cynnig iechyd, gofod, lliw. Rwy’n garddio tipyn ac yn meddwl bod y lliw yn dda iawn i’m llesiant ac ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngwnïo, fy hoff le yw fy ngardd. Dw i erioed wedi bod i Lanfihangel-clogwyn-gofan!
Gwnïo Er Mwyn Gwneud Ei Ffordd
Gilly
Gilly sy’n adrodd ei stori am gadw sgil hen greffft yn fyw.