gan Aileen Oliver
Rwy’n 92 mlwydd oed ac yn wreiddiol o Gaeredin. Gadewais pan oeddwn ond yn 16 oed i ymuno â Gwasanaeth Llynges Frenhinol y Merched, neu WRENS, lle cyfarfûm â’m gŵr a oedd yn brentis yn Arbroath ar y pryd. Ym 1949, roeddwn i ym Mharc Bletchley yn gwneud signalau - Enigma - ond dydw i ddim i fod i siarad am hynny. Ni oedd y cwpl llyngesol cyntaf i briodi yn yr eglwys yn Arbroath. Yna cafodd ei ddrafftio i Unthorn yn Cumberland, yna St Austell yng Nghernyw am ddwy flynedd arall. Roedden ni wedi ein lleoli yn Gosport pan gafodd fy mab a merch eu geni. Mae cymaint wedi digwydd mewn 92 mlynedd! Oddi yno aethom i Malta am 7 mlynedd lle bûm yn byw yn Birzebugga. Aeth fy mhlant i'r ysgol yno ac yn wir roedd yn amser gwych yno - roeddwn i wir wrth fy modd. Ym 1961 fe wnaethom ddychwelyd a chael ein lleoli ym Mreudeth, sef gorsaf awyr y llynges ar y pryd – dyna a ddaeth â mi i Sir Benfro.
Rwy'n cofio pan es i fyny mewn awyren am y tro cyntaf - fe gyrhaeddon ni'r awyren ac roedd yna ddwy sedd yn unig! Dywedais, “Dydw i ddim yn mynd i mewn i hwnna” a dywedodd “Wyt, mi wyt ti!” Fe es i mewn a dweud, “Ydych chi'n siŵr ein bod ni'n mynd i fod yn iawn?” meddai, “edrychwch allan o'r ffenest, byddwch chi'n iawn” a thra roeddwn i'n gwneud hynny fe gododd a mynd i'r cefn a dweud “Rwy’n mynd i’r toiled” ac roedd yr awyren ar awtobeilot ac, o, roeddwn I wedi fy nychryn - ond fe fyddwn i'n ei wneud eto!! Nawr dwi'n gwybod beth sy’n digwydd - unwaith y byddwch chi'n gwybod dyw hi ddim mor ddrwg. Awyren hyfforddi ydoedd. Rydw i wedi bod ar hediad hofrennydd hefyd. Roedd yn anhygoel – roedd yn Frenin y Môr o Freudeth. Roeddwn i'n ofnus - dywedais, na, peidiwch â gwneud iddo fynd i fyny a dywedodd y peilot “rhy hwyr, rydyn ni wedi gadael y tir” - ac roedden ni eisoes wedi gadael y tir! Mae’n ddoniol iawn, oherwydd pan fyddaf yn cerdded dros bont ni allaf edrych i lawr, ond roeddwn yn iawn mewn hofrennydd.
Pan ddaeth gwasanaeth fy ngŵr i ben, roeddwn yn gyfrifol am y Cambrian Hotel yn Solfach lle bûm yn aros am 10 mlynedd. Rhedeg y gwesty – wel, pa hwyl oedd hynny! Gyda 9 ystafell wely roedd gennym y gwragedd yn ymweld â'u gwŷr yn Breudeth yn aros gyda ni, ar y pryd roedd yn dal i fod yn orsaf awyr llynges. Pan symudon ni yno gyntaf fe wnes i bopeth fy hun am y 12 mis cyntaf - newid gwelyau bob bore a'r holl lanhau. Roedd yn waith caled – ond roedd yn rhaid i mi ddarganfod pwy oedd angen i mi ei gyflogi. Cefais ddwy fyfyrwraig lleol yn yr haf ac fe wnaethant fy helpu gyda chadw’r tŷ. Roeddwn i’n coginio swper yn rheolaidd i glerigwyr Dewi Sant. Y tro cyntaf i mi wneud swper iddyn nhw, roedd 9 ohonyn nhw a gofynnais iddyn nhw a oedden nhw eisiau gwin, heb wybod a fydden nhw'n yfed ai peidio. Dywedodd un dyn, “Beth ydych chi'n ei feddwl - a ydych chi'n meddwl ein bod ni'n yfed ai peidio?” a dywedais i “Wel, mae’n anodd gwybod” a dywedodd “Fe gawn ni 6 potel o Blue Nun!” ac fe wnaethon nhw yfed y cyfan ac yna gofyn am fwy! Felly roedd yn rhaid i mi gael rhagor o stoc.
Roeddwn yn mwynhau rhedeg y gwesty, roedd yn wych. Cawsom far bwffe amser cinio ac roedd bob amser yn brysur. Mae’r cyfan wedi newid ond rydw i wedi ymweld ers hynny ac mae’n hyfryd. Fe wnes i ei redeg am ychydig gyda fy mab. Cawsom bobl ddiddorol iawn yn aros gyda ni gan gynnwys Morecombe a Wise, Little & Large yn y 70au - roedden nhw'n dda ac yn ddigri iawn.
Wedi i mi gyfarfod fy ail ŵr roeddem yn byw yn Chapel Cottage yn Solfach Uchaf. Dychwelais i Gosport am gyfnod ac ar ôl iddo farw yn yr ysbyty yn Portsmouth, des i nôl i Gymru gyda fy merch i Hwlffordd. A dyma fi wedi aros. Symudais i Arbeth a dwi wrth fy modd yma - fyddwn i byth yn mynd yn ôl i'r Alban! Rwyf wrth fy modd â'r tywydd - a gallwch fynd i lefydd - Abertawe a Chaerdydd a Llundain a dwi'n caru'r bobl. Ni allech ddod o hyd i bobl brafiach, mae nhw’n gymwynasgar iawn a bob amser mor gyfeillgar.
Gallem ysgrifennu llyfr am fy mhrofiadau. Rwyf wrth fy modd yma ac ni fyddwn yn mynd i unrhyw le arall. Dw i wedi teithio ar hyd y lle. Ac yn y 60au, bûm i fyny mewn hofrennydd o Freudeth ac roedd hynny’n gyffrous. Rydyn ni'n mynd allan gyda'n gilydd oddi yma. Aethon ni i Abertawe am drip ar y Swansea Jack – roedd yn ddiwrnod allan hyfryd. Ac mae Ziggy yn mynd â fi allan i Arberth yn fy nghadair olwyn. Mae gennym rai anturiaethau!
Fy nghymydog hyfryd wnaeth rhoi’r tedi hwn i mi. Dwi'n caru tedis. Mae gen i nifer o rai bach yn fy nhŷ. Chi'n gweld os na fedrwch chi gysgu, mae'n rhaid i chi fynd â thedi i'r gwely ac rydych chi'n rhoi cwtsh iddo ac yna ewch i gysgu’n syth. Roedd Ziggy, sy’n mynd â fi allan, yn fy nhŷ un diwrnod a dywedodd y byddai’n rhaid iddo fynd oherwydd ei fod angen cwsg ac felly dywedais, “wel roeddech yn y gwely neithiwr, on’d oeddech chi?” Dywedodd oeddwn, ond ni allai fynd i gysgu. Dywedais wrtho ei fod angen tedi a dechreuodd chwerthin “Dydw i ddim eisiau hen dedi!”. Roedd fy nhedi mawr brown yma felly dywedais wrtho am gymryd fy nhedi a'i gofleidio heno a chi’n gwybod beth? Mae’r tedi ganddo fe o hyd! Ac mae e’n feiciwr. Felly, un newydd ydy hwn – ac fe wnaf ei alw’n Twiggy – fe wneuth hynny’r tro. Hynny’n oce Twiggy? Fe gaf i sioc os bydd yn ateb, ond ni wnaf? A dwi wedi eistedd ar feic modur Ziggy ond aethon ni ddim i unman. Fe wnes i reidio ar gefn un flwyddyn yn ôl pan oedd gen i gariad a oedd berchen ar feic.
Aileen gyda’i thedi newydd Twiggy, a hithau ar ei phen-blwydd yn 91 oed gyda beic Ziggy.
Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.
Darganfod mwy am sut y mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad pori.