Mae Suzi Naomi MacGregor (BMus, Prof.Dip Actio) yn ganwr/cerddor/athro llawrydd wedi ei lleoli yng Ngorllewin Cymru. Canu yw ei hangerdd, wedi cael ei chodi mewn teulu cerddorol ac wedi ei hyfforddi mewn llais ym Mhrifysgol Goldsmiths.
Dros y 7 mlynedd diwethaf, mae ei chysylltiad agos â natur a’r arfordir wedi dylanwadu’n gryf ar ei bywyd, ar ôl cael ei lleoli rhwng Sir Benfro a Costa Rica, gan archwilio ymarfer lleisiol a pherfformiad mewn mannau gwyllt. Ers dychwelyd i’r D.U yn llawn amser, mae Suzi wedi bod yn datblygu ei cherddoriaeth ei hun, yn ysgrifennu ac yn addysgu – yn gweithio ar ei phen ei hun ac ar brosiectau ar y cyd.
Wedi cerdded y Camino de Santiago yn 2019, cafodd wir ddiddordeb yn y cysylltiadau rhwng canu, cerdded, natur, creu yn fyrfyfyr a chwarae.
Ar hyn o bryd, mae Suzi yn archwilio Byrfyfyr Lleisiol Cyfoes gyda’r athro/perfformiwr Briony Greenhill, ac mae’n gwneud cynlluniau i recordio a rhyddhau ei halbwm cyntaf eleni.
Mae’r prosiectau ar y cyd mwyaf diweddar yn cynnwys:
Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.
Darganfod mwy am sut y mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad pori.