James Williams
Gwneuthurwr theatr a chyfansoddwr yw James Williams wedi ei leoli yn ne’r Sir. Mae wedi gweithio i amryw o gwmniau’n cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Theatre Royal Plymouth, National Theatre Wales, Neuadd Dewi Sant, Theatr y Sherman, Canolfan Mileniwm Cymru, Give it a Name, Hijinx Theatre a Triongl. Gweithia’n rheolaidd gyda myfyrwyr y Theatr Gerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac mae’n cyfarwyddo eu harddangosfa.
Ar gyfer Pirates of the Carabina, cyfarwyddodd James sioe theatr syrcas Flown wnaeth ennill gwobr Total Theatre yng Ngŵyl Caeredin a RUHM / Home a berfformiwyd yn y Roundhouse a’r Brighton Dome.
Cyfansoddodd nifer o sioeau cerdd yn cynnwys The Jolly Folly of Polly the Scottish Trolley Dolly a Shreds gyda Lesley Ross; Ninety-Seven, Unga Bunga the Stone Age Spectaculara Snow Queen gyda Scott Pryor a Vampyre gyda David Last.
Mae James yn Gyfarwyddwr Cysylltiol Theatr y Torch yn Aberdaugleddau ac mae wedi gweithio ar bob sioe Nadolig ers 1998.
