Yn actores, pypedwr, artist lleisiol a gweledol, mae gwaith Heledd Gwynn yn tonni yn ei ffurf, ond fe’u cysylltu’r gan yr awydd a’r ynni i ddweud storïau: rhannu naratifau ac emosiynau trwy harddwch iaith, pa un ai a ydy hynny ar lafar, neu’n weledol yn unig.
Magwyd Heledd ym mhentref Cilgerran, ar gyrion yr afon Teifi, ac wedi ysgol aeth i astudio actio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Tra yn ei blwyddyn olaf, derbyniodd Bwrsari Laurance Olivier. Ers graddio yn 2013, mae wedi gweithio mewn theatrau ar draws Cymru, y DU ac ymhellach dros y ffin gan fwynhau perfformio testunau clasurol, dramâu newydd, gwaith wedi ei ddyfeisio a phypedwaith. Rhwng 2019 a 2020 cafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Ian Charleson 3 gwaith am ei gwaith yn Henry V (Shakespeare at the Tobacco Factory), Richard III (Headlong) a Hedda Gabler (Theatr y Sherman). Yn fwy diweddar, mae wedi gweithio’n fwy fwy ar y sgrin ac mae wrth ei bodd gyda’r gwahanol gyfleoedd a’r heriau y mae gan y dull yma o adrodd stori i’w gynnig. Trwy gydol ei gyrfa actio, mae awydd Heledd i barhau i baentio a chreu wedi esblygu ac mae’n parhau i fod yn rhodfa o archwiliad. Ac er gwaethaf mwynhau cyfnewidioldeb celf, mae ei gwaith yn aml yn cyfuno themâu cylchol o lythrennu, lle, a phobl.
Ar gyfer Theatr Sherman: Hedda Gabler; Ti.Me (& Cwmni Pluen); Rhwng Dau Fyd (& Living Pictures); Say It With Flowers.
Theatrau eraill yn cynnwys: Richard III (Headlong); Henry V (Shakespeare at The Tobacco Factory); Ice Road (Raucous Theatre); The Lightning Path (Small World Theatre); Windsongs Of The Blessed Bay (Theatr Cadair); Y Fenyw Ddaeth O’r Môr (Theatr Genedlaethol Cymru); A Child’s Christmas In Wales (Wales Theatre Company); Land Of The Dragon (Puppet Soup - Edinburgh Fringe); In Light Of Tom Mathias – Incubator Project (Canolfan Mileniwm Cymru).
Teledu yn cynnwys: The Pact (2021), Holby City, Ordinary Lies (BBC); Enid a Lucy, Amser Maith Yn Ôl, 35 Diwrnod, Gwaith/Cartref (S4C).
Gwaith lleisiol ar gyfer Ffilm Cymru, BBC Cymru, National Theatre Wales, Prifysgol Abertawe, a Theatr Byd Bychan,
Art work @Heleddgwynnjones
Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.
Darganfod mwy am sut y mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad pori.