Ewch i hofran dros y map i ddarganfod Stori Sir Benfro.


Am
Stori Sir Benfro
Ym mis Ionawr 2021, yn ystod canol ail gyfnod clo Cymru, yn dawel bach, fe wnaeth y Torch lansio prosiect uchelgeisiol o gasglu storïau gan bobl ar draws Sir Benfro i greu archif byw a fyddai’n mapio’r Sir drwy stori ac a fyddai’n annog artistiaid lleol i gymryd ysbrydoliaeth o’r bobl a llefydd sy’n agos i’w calonnau.
Bellach, mae’r archif byw yn cynnwys plethora o storïau sy’n gallu helpu taflu golau ar y ffordd yr ydym yn byw yn Sir Benfro, ein hanes, ein tebygrwydd a’n gwahaniaethau. Maent yn dathlu yr arferol a’r anghyffredin ac maent yn siarad am lawenydd y gymuned yn ogystal â delio’n onest am y pynciau o unigedd a rhaniad o fewn ein cymuned. Weithiau maent yn chwerthin yn uchel ac yn aml yn dod â deigryn i’r llygad.
Gobeithiwn y bydd yr archif hon yn parhau i dyfu ac y bydd yn helpu i hyrwyddo cydweithrediad ac integreiddio yn ogystal â dylanwadu sgyrsiau am y ffordd y mae’r gymuned yn gweld ei dyfodol, am ffordd well o fyw, mwy diogel a mwy tosturiol.
Felly, plis a wnewch chi fwynhau’r storïau, ewch i bori trwy dudalennau’r artistiaid a gweld sut maent wedi bod yn ymateb i’r storïau maent wedi eu clywed, ac yna recordiwch eich stori eich hun a’i rhannu gyda’r byd.
